Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 08 Mehefin 2010
Cynigion a gyflwynwyd ar 28 Mai 2010
NDM4485 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii)(b) a (c), sy’n codi o ganlyniad I’r Mesur.
NDM4486 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Y Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru)
Gosodwyd Y Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 25 Ionawr 2010;
Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer (Cymru)
gerbron y Cynulliad ar 21 Mai 2010.
NDM4487 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Gorchmynion Rhan 2A) (Cymru) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ebrill 2010.
NDM4488 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 24.4
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Pwerau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ebrill 2010.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 03 Mehefin 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4486
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:Yn nodi argymhelliad adroddiad y Pwyllgor Cyfnod 1 na ddylai'r GIG fod yn awdurdod arweiniol bob tro.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:Yn nodi y caiff y darpariaethau yn y mesur hwn eu cyllido drwy chwalu'r grant ar gyfer cydweithio ac yn mynegi pryder ynghylch effaith y penderfyniad hwn ar nifer o wasanaethau hanfodol ledled Cymru. TYNNWYD YN ÔL