08/07/2009 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 8 Gorffennaf 2009

Cynigion a gyflwynwyd ar 1 Gorffennaf 2009

Dadl Fer

NDM4262

Chris Franks (Canol De Cymru): Cyllid i chi, eich cymuned, ac i Gymru

NDM4260 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod ei bod yn hanfodol bod gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc anabl yn cael eu darparu yn brydlon ac yn amserol,

2. Yn nodi â phryder lefelau presennol yr oedi wrth ddarparu cadeiriau olwyn pediatreg ledled Cymru,

3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i fuddsoddi’n ddigonol mewn gwasanaethau cadeiriau olwyn pediatreg i ddiwallu’r safonau presennol a nodwyd yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant.

Mae copi o'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant i’w weld yn:

h

ttp://www.wales.nhs.uk/sites3/Documents/441/EnglishNSF_amended_final.pdf

NDM4261 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 35.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Gorffennaf; ac

2. Yn cymeradwyo’r gwelliannau i Reolau Sefydlog a nodir yn Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigion a gyflwynwyd ar 16 Mehefin 2009

NDM4245 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Gorchymyn Sefydlog 22.50, yn cytuno y caiff Joyce Watson gyflwyno Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 23 Ionawr 2009 dan Reol Sefydlog Rhif 22.48, a Memorandwm Esboniadol. Gellir gweld y Gorchymyn arfaethedig amlinellol trwy ymweld â’r ddolen ganlynol: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislative-ballots/busnes-gorchmynion-cymhwysedd-deddfwriaethol-balot-26-06-07/lco-078.htm

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 2 Gorffennaf 2009

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4260

1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ym mhwynt 1, dileu ‘plant a phobl ifanc’ a rhoi ‘pobl’ yn ei le.

2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ym mhwynt 2, dileu ‘pediatreg’.

3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

‘Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i osod safon ofynnol ar gyfer darparu cadeiriau olwyn i oedolion, er mwyn sicrhau nad oes neb yn disgwyl mwy na 12 mis i gael cadair olwyn.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 3 Gorffennaf 2009

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4260

1. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu popeth ac yn ei le rhoi:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw gwasanaethau prydlon ac effeithiol i blant a phobl ifanc anabl

2. Yn nodi â phryder lefelau presennol yr oedi wrth ddarparu cadeiriau olwyn pediatreg ledled Cymru,

3. Yn edrych ymlaen at yr Adroddiad ar yr Adolygiad o Wasanaethau Cadeiriau Olwyn a sefydlwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,

4. Yn cymeradwyo’r ymrwymiad i safonau gwasanaethau cadeiriau olwyn, a nodwyd yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant.

Mae copi o'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant i’w weld yn:

http://www.wales.nhs.uk/sites3/Documents/441/EnglishNSF_amended_final.pdf