Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 09 Rhagfyr 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 02 Rhagfyr 2009
Dadl Fer
NDM4347 Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Anhwylder Straen wedi Trawma Cymhleth
NDM4344
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar ei ymchwiliad i'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru (CAFCASS), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Gorffennaf 2009.
Noder: Bydd ymateb y Dirprwy Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Hydref 2009.
NDM4345
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:
Yn cymeradwyo Gorchymyn drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Iechyd a Gwasanaethau Iechyd a Lles Cymdeithasol) 2010. Gosodwyd y Gorchymyn drafft a’r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 2 Rhagfyr 2009;
Gosodwyd adroddiad Pwyllgor y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar Wasanaethau Iechyd Meddwl ynghylch Gorchymyn arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 6) 2008 gerbron y Cynulliad ar 20 Mehefin 2008.
NDM43456
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder na fydd y Mesur Llifogydd a Rheoli Dŵr yn darparu eglurder ynghylch pwy sy’n gyfrifol am amddiffyn ac atal llifogydd.
2. Yn cydnabod pwysigrwydd mabwysiadu dull o gael un asiantaeth arweiniol ym maes amddiffyn, atal ac ymateb i lifogydd.
3. Yn mynegi pryder ynghylch canlyniadau rhai penderfyniadau cynllunio ar gynyddu perygl llifogydd ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu TAN 15 ar fyrder.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu argymhellion adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Risgiau o Erydu Arfordirol a Llifogydd Llanw yng Nghymru.
Gellir gweld y Mesur Llifogydd a Rheoli Dŵr drwy ymweld â’r ddolen ganlynol:
http://www.defra.gov.uk/environment/flooding/policy/fwmb/key-docs.htm
Gellir gweld TAN 15 drwy ymweld â'r ddolen ganlynol:h
ttp://wales.gov.uk/topics/planning/policy/tans/?skip=1&lang=cy
Gellir gweld adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Risgiau o Erydu Arfordirol a Llifogydd Llanw yng Nghymru drwy ymweld â’r ddolen ganlynol:
ttp://www.wao.gov.uk/assets/welshdocuments/Coastal_flooding_cym.pdf
Cynnig a gyflwynwyd ar 22 Hydref 2009
NNDM4310 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Gorchymyn Sefydlog 22.50, yn cytuno y caiff Darren Millar gyflwyno Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 5 Mehefin 2008 dan Reol Sefydlog Rhif 22.48, a Memorandwm Esboniadol.
Gellir gweld y Gorchymyn arfaethedig amlinellol trwy ymweld â’r ddolen ganlynol:
h
ttp://www.assemblywales.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislative-ballots/busnes-gorchmynion-cymhwysedd-deddfwriaethol-balot-26-06-07/business-legislative-competence-orders-lco-66.htm
Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 04 Rhagfyr 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4346
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
yn croesawu cyhoeddi’r Mesur Rheoli Llifogydd a Dwr sy’n cyflwyno pwerau a chyfrifoldebau i Weinidogion Cymru;
yn cydnabod y bydd hyn yn galluogi i’r perygl o lifogydd gael ei reoli yn fwy effeithiol, yn fwy strategol ac yn fwy cynhwysfawr yng Nghymru ac i bobl sy’n byw mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd o unrhyw ffynhonnell gael eu diogelu’n well;
yn croesawu llwyddiant Nodyn Cyngor Technegol 15 yn atal datblygu amhriodol mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd; a
yn canmol y gwaith a wnaed gan y gwasanaethau brys, yr awdurdodau lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd, sefydliadau’r trydydd sector a chymunedau wrth ymateb i’r llifogydd a gafwyd yn ddiweddar a’r partneriaethau effeithiol sydd wedi datblygu.