Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 10 Hydref 2007
Cynigion a gyflwynwyd ar 3 Hydref 2007
Dadl Fer
NDM3683
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Yr achos dros ganiatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau.NDM3684
William Graham (Dwyrain De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU a) I wyrdroi unrhyw gynllun i gau Swyddfeydd Post yng Nghymru; b) I gymryd camau i adfer hyfywedd ariannol i’n Rhwydwaith Swyddfeydd Post.Cynigion a gyflwynwyd ar 6 Mehefin 2007
NNDM3656
Ann Jones (Dyffryn Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.50: Yn cytuno y caiff Ann Jones gyflwyno Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 26 Mehefin 2007 dan Reol Sefydlog 22.48, a Memorandwm Esboniadol.Gellir gweld y Gorchymyn arfaethedig amlinellol trwy ymweld â’r ddolen ganlynol:
http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/buslegislation/business-legislative-ballots/business-legislative-competence-orders-lco1-033.htm
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 4 Hydref 2007
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:NDM3684
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wneud ailagor Cronfa Ailddatblygu Swyddfa'r Post yn flaenoriaeth ddi-oed.Gwelliannau a gyflwynwyd ar 5 Hydref 2007
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3684
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu popeth ar ôl “Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:” a rhoi yn ei le:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i barhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU er mwyn cefnogi rhwydwaith hanfodol a chynaliadwy o Swyddfeydd Post ym mhob rhan o Gymru;
2. Yn croesawu’r ymrwymiad yn Cymru’n Un
i greu Cronfa Datblygu Swyddfeydd Post o’r newydd yn ystod tymor presennol y Cynulliad.