Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 13 Mawrth 2013
Cynigion a gyflwynwyd ar 6 Mawrth 2013
Dadl Fer
NDM5183 Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Cynlluniau Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar gyfer Sir Benfro – gwasanaethau diogel a chynaliadwy?
NDM5184 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru).
Cafodd y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol eu gosod gerbron y Cynulliad ar 24 Hydref 2012
Cafodd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) ei osod gerbron y Cynulliad ar 21 Chwefror 2013.
NDM5185 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
NDM5181 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn penderfynu cefnogi'r egwyddor o gynnal gwrandawiadau cyn cadarnhau penodiadau cyhoeddus pwysig yng Nghymru.
Cefnogwyd gan:
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Mick Antoniw (Pontypridd)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
David Rees (Aberafan)
Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Christine Chapman (Cwm Cynon)
David Melding (Canol De Cymru)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru)
NDM5186 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-13 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 6 Mawrth 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad y canfuwyd methiant i gydymffurfio ac y dylid ceryddu Bethan Jenkins AC.
NDM5187 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-13 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 6 Mawrth 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a
2. Yn cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad.
NDM5188 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn mynegi pryder nad yw cleifion yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y triniaethau a'r meddyginiaethau mwyaf newydd a mwyaf arloesol sydd ar gael i gleifion eraill ledled y DU;
2.
Yn croesawu’r ffaith bod Cronfa Technolegau Iechyd Cymru wedi cael ei chreu, ond yn gresynu wrth y diffyg buddsoddiad mewn technolegau newydd, arloesol o’r dyraniad gwerth £5 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-2013;
3.
Yn nodi bod y diwydiant fferyllol wedi buddsoddi £4.4 biliwn mewn gwaith ymchwil a datblygu yn y DU yn 2009, sydd yn fwy nag unrhyw sector diwydiant arall, ac yn credu bod GIG Cymru angen amgylchedd sy'n barod i dderbyn arloesedd er mwyn cystadlu'n effeithiol am dreialon clinigol ar lefel fyd-eang;
4.
Yn credu y dylid ystyried gwariant ar feddyginiaethau modern yn fuddsoddiad yn hytrach nag yn gost. Felly, mae'n gresynu mai dim ond 0.5% o gyfanswm gwariant y GIG yng Nghymru yn 2011 a wariwyd ar feddyginiaethau newydd a ddefnyddiwyd mewn gofal sylfaenol; a
5. Yn nodi y rhagwelir y bydd Cymru yn sicrhau arbedion o ryw £186 miliwn rhwng 2011 a 2015 oherwydd Colli Hawliau Unig Gynhyrchydd (LOE) ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi rhywfaint o’r arian hwn yn y Gronfa Technolegau Iechyd, i gefnogi'r ymgysylltiad â Grwp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) fel y gall mwy o gleifion yng Nghymru fanteisio ar y triniaethau a’r meddyginiaethau diweddaraf.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 7 Mawrth 2013
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5188
1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 1, ar ôl ‘yng Nghymru’, rhoi ‘, yn enwedig rhai gyda chlefydau prin,’.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 8 Mawrth 2013
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5188
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘gresynu’ a rhoi yn ei le:
a) wrth y diffyg buddsoddiad mewn technolegau newydd, arloesol o’r dyraniad gwerth £5 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-2013;
b) nad yw’r Gronfa yn mynd i’r afael â hygyrchedd gwael triniaethau canser modern i gleifion yng Nghymru wrth gymharu â rhannau eraill o’r DU.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cronfa Technolegau Iechyd Cymru yn ehangu mynediad at driniaethau canser modern ar gyfer cleifion yng Nghymru.
3. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod modd peryglu mynediad cleifion at feddyginiaethau a thriniaethau arloesol yn sgîl toriadau termau real Llywodraeth Cymru i gyllideb GIG Cymru nas gwelwyd eu tebyg o’r blaen.