13/10/2011 - Cynigion heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod yn y Dyfodol

Cynigion a gyflwynwyd ar 6 Hydref 2011

NNDM4835

Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4731 ac NNDM4660, y darpariaethau hynny y daethpwyd â hwy gerbron yn y Bil Addysg sy’n ymwneud â phwerau i osod cosb ariannol, adennill costau, derbyn apelau, rhoi cyfarwyddiadau a thynnu cydnabyddiad yn ôl oddi ar gyrff sy'n cael eu cydnabod, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

I weld copi o’r Mesur Seneddol Lleoliaeth i:

http://services.parliament.uk/bills/2010-11/education.html