13/11/2014 - Cynnig heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 13/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/11/2014

Cynigion a gwelliannau i'w trafod yn y dyfodol

Cynigion a gyflwynwyd ar 13 Tachwedd 2014

 

NNDM5625

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y dylid datganoli plismona (heblaw am Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU a diogelwch gwladol).

Cefnogir gan:

Alun Davies (Blaenau Gwent)

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)