Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod yn y Dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 14 Ionawr 2011
NNDM4634 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
I gynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau sy'n ymwneud â'r Awdurdod Glo yn Rhan 4 o'r Mesur Ynni, fel y'i cyflwynwyd i Dy'r Arglwyddi ar 8 Rhagfyr 2010, i'r graddau y mae'r darpariaethau'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Ionawr 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 26.2(i).
I weld copi o’r
Mesur Ynni
ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/energyhl.html