14/02/2017 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 07/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/02/2017

​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 14 Chwefror 2017

Cynigion a gyflwynwyd ar 7 Chwefror 2017

NDM6233 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil sy'n ymwneud â graddio addysg uwch, cymorth ariannol i fyfyrwyr, y cynllun annibynnol ar gyfer ymdrin â chwynion myfyrwyr a chymorth ar gyfer ymchwil, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd ac fe'i diwygiwyd ar 1 Rhagfyr. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Ionawr yn unol â yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

'Bil Addysg Uwch ac Ymchwil'

NDM6234 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2017

 
NDM6235 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2017-2018 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2017.

NDM6237

Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Croesawu Adroddiad Hendry a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n cefnogi'r achos dros ddatblygu diwydiant ynni morlynnoedd llanw ym Mhrydain.

2. Cydnabod yr angen i Lywodraeth Prydain gysylltu â Llywodraeth Cymru yn barhaus wrth ddatblygu a gweithredu polisïau ar gyfer morlynnoedd llanw.

3. Cydnabod, wrth sicrhau y trawsnewidiad i economi carbon isel, y dylai Cymru gael cymaint o fanteision economaidd â phosib o'r diwydiant ynni morlynnoedd llanw a thechnolegau llanw eraill, ar yr amod bod prosiectau o'r fath yn derbyn y gymeradwyaeth angenrheidiol.

'Adroddiad Hendry'