Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 15 Mawrth 2017
Cynnig a gyflwynwyd ar 28 Chwefror 2017
NDM6249 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Dai Lloyd AC gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd ar 28 Chwefror 2017 o dan Reol Sefydlog 26.91A.
Cynigion a gyflwynwyd ar 8 Mawrth 2017
Dadl Fer
NDM6256 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Dinas Fach, Cyfle Mawr Unigryw - Cais Tyddewi i fod yn Ddinas Ddiwylliant y DU
NDM6257 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur yn methu o ran pobl Cymru.
NDM6258 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2017.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 8 Mawrth 2017.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 9 Mawrth 2017
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM6257
1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnwys ar ddiwedd y pwynt:
'a bod ei methiannau yn cael eu cymhlethu gan weithredoedd Llywodraeth Geidwadol y DU'.