15/03/2017 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 08/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/03/2017

​Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 15 Mawrth 2017

Cynnig a gyflwynwyd ar 28 Chwefror 2017

NDM6249 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

Yn cytuno y caiff Dai Lloyd AC gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd ar 28 Chwefror 2017 o dan Reol Sefydlog 26.91A.

Cynigion a gyflwynwyd ar 8 Mawrth 2017

 

Dadl Fer 
NDM6256 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
 
Dinas Fach, Cyfle Mawr Unigryw - Cais Tyddewi i fod yn Ddinas Ddiwylliant y DU
 
NDM6257 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu bod Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur yn methu o ran pobl Cymru.

NDM6258 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2017.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 8 Mawrth 2017.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 9 Mawrth 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6257

1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnwys ar ddiwedd y pwynt:

'a bod ei methiannau yn cael eu cymhlethu gan weithredoedd Llywodraeth Geidwadol y DU'.