Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 16 Mehefin 2010
Cynigion a gyflwynwyd ar 09 Mehefin 2010
Dadl Fer
NDM4496
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Yr Hawl i Anadlu
NDM4495
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2010/2011.
Rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU - ar gael yn Saesneg yn unig:
http://www.number10.gov.uk/news/topstorynews/2010/05/queens-speech-2010-3-50297
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 11 Mehefin 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4495
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i leihau'r baich treth incwm ar bobl yng Nghymru, a ledled y DU, drwy gynyddu'r lwfans treth personol.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau bod pensiwn sylfaenol y wladwriaeth yn cynyddu yn unol ag enillion, prisiau neu 2.5%.
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i roi taliadau teg a thryloyw i'r rheini sydd â pholisi ag Equitable Life ac sydd wedi dioddef colledion.
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gynnal refferendwm ar y system Pleidlais Amgen ar gyfer etholiadau i Dy'r Cyffredin.
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i roi'r hawl i bleidleiswyr alw eu AS yn ôl petai'n euog o gamymddwyn difrifol.
6. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddiwygio Ty'r Arglwyddi gyda Thy sydd wedi'i ethol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar sail cynrychiolaeth gyfrannol.
7. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ganslo cardiau adnabod a diddymu cyfreithiau diangen ac ymwthiol eraill.
8. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i hawliau dynol sylfaenol drwy roi diwedd ar gadw plant at ddibenion mewnfudo.
9. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddarparu fframwaith ar gyfer rheoliadau ariannol sy'n sicrhau bancio cynaliadwy a chyfrifol.