18/03/2015 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 11/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/03/2015

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 18 Mawrth 2015

Cynigion a gyflwynwyd ar 26 Chwefror 2015

NDM5712
Mick Antoniw (Pontypridd)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn cydnabod bod technoleg ar-lein ynghyd â hysbysebu dwys wedi ysgogi twf hapchwarae yng Nghymru ac yn nodi:

a) bod hapchware ar gael i holl boblogaeth Cymru 24/7;

b) y gall hapchwarae ddod yn gaethiwed sy'n niweidiol yn gymdeithasol, gan gyfrannu at dlodi, iechyd a phroblemau cymdeithasol;

c) bod adnabod caethiwed a darparu cymorth yn gynnar yn hanfodol er mwyn atal pobl rhag ddod yn gaeth i hapchwarae;

d) bod y twf mewn hapchwarae ar-lein a pheiriannau hapchwarae ods sefydlog wedi troi hapchwarae yn y DU i mewn i ddiwydiant gwerth biliynau o bunnoedd; a

e) bod amgylchedd rheoleiddio hapchwarae yn gymharol ysgafn.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu a gweithredu strategaeth i fynd i'r afael â'r canlyniadau cymdeithasol ac iechyd sy'n deillio o hapchwarae;

b) ymgysylltu â Llywodraeth y DU i drafod datganoli rhagor o bwerau dros drwyddedu peiriannau hapchwarae; ac

c) ymgysylltu â'r diwydiant hapchwarae a'r Ymddiriedolaeth Hapchwarae Cyfrifol i sicrhau bod cyfran briodol o'r cyllid yn cael ei wario yng Nghymru i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â bod yn gaeth i hapchwarae.

Cynigion a gyflwynwyd ar 11 Mawrth 2015

Dadl Fer

NDM5726 Leanne Wood (Canol De Cymru):

Darparu difidend datganoli ar gyfer Cymru gyfan

Manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n deillio o ddatganoli i wneud yn siŵr bod yr holl wlad yn elwa arnynt.

NDM5728
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r penderfyniad diweddar gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i atal gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol a gwasanaethau clinigol eraill i fenywod yn Ysbyty Glan Clwyd; a

2. Yn galw ar y bwrdd iechyd i sicrhau parhad gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol a gwasanaethau clinigol eraill i fenywod ym mhob un o'r tri o ysbytai cyffredinol dosbarth yng ngogledd Cymru.

NDM5727 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod un ym mhob tri o blant yng Nghymru yn byw o dan y llinell dlodi.

2. Yn nodi bod gan Gymru y lefelau cyrhaeddiad addysgol isaf yn y DU, sy'n cael effaith arbennig o negyddol ar gymunedau difreintiedig.

3. Yn nodi bod cyfraddau gordewdra ymhlith plant, cyfraddau ysmygu ymhlith menywod ifanc a chyfraddau yfed alcohol ymysg pobl ifanc yn waeth yng Nghymru nag yn Lloegr.

4. Yn nodi bod pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yng Nghymru yn yfed mwy o alcohol bob wythnos nag mewn unrhyw ran arall o'r DU.

5. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Llywodraeth Cymru a fydd yn cynyddu'r Grant Amddifadedd Disgyblion i £1,150 fesul disgybl, yn ymestyn y grant i blant o dan bump oed, ac yn cyflwyno tocynnau rhatach i deithwyr ifanc.

6. Yn credu y dylai pobl gael eu grymuso i fyw'r bywyd y maent am ei fyw ac nad oes lle i laesu dwylo yn y frwydr i sicrhau cydraddoldeb i bawb.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ddarparu mynediad at y fenter Dechrau'n Deg i bob plentyn yng Nghymru ar sail angen yn hytrach na lleoliad daearyddol;

b) gwella'r system o ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon a sefydlu academi arweinyddiaeth mewn addysg i Gymru;

c) diwygio'r fframwaith Estyn i sicrhau bod mwy o ffocws yn cael ei roi ar addysg a bwyta'n iach ac ymarfer corff mewn ysgolion;

d) yn canolbwyntio mwy o adnoddau ar annog pobl ifanc i roi'r gorau i ysmygu a mynd i'r afael â thybaco anghyfreithlon; ac

e) sicrhau bod pob prentis yn cael hyfforddiant o'r safon uchaf sy'n rhoi cymwysterau cludadwy iddynt.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 12 Mawrth 2015

 

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5727

1. Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn nodi'r cynnydd a ragwelir yn nifer y plant sy'n byw mewn tlodi i 3.4 miliwn ar draws y DU erbyn 2020 ac yn nodi hefyd effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar y cynnydd mewn lefelau tlodi plant.

maternity services for North Wales.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 13 Mawrth 2015

 

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

 

NDM5727

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 5.

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Yn is-bwynt 7b), dileu 'sefydlu academi arweinyddiaeth mewn addysg i Gymru' a rhoi yn ei le 'sicrhau ei bod yn symud ymlaen yn effeithlon o'r ddarpariaeth newydd o addysg gychwynnol i athrawon'.

3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu isbwynt newydd ar ddiwedd y cynnnig:

sichrau bod ysgolion yn dangos tystiolaeth eu bod yn defnyddio'r grant amddifadedd disgyblion i helpu disgyblion o gartrefi incwm isel.

 

NDM5728

1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

2. Yn nodi mai ataliad dros dro yw hwn ac y bydd gwasanaethau o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn cael eu hadfer o fewn 12 mis;

3. Yn nodi y bydd y SuRNICC yn cael ei lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd fel rhan o ddarpariaeth y bwrdd iechyd o wasanaethau mamolaeth yn y Gogledd sy'n glinigol ddiogel ac yn gynaliadwy.