Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 18 Hydref 2016
Cynnig a gyflwynwyd ar 11 Hydref 2016
NDM 6117 Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2015-16, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.
Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2015-16
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 13 Hydref 2016
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau a ganlyn i gynigion:
NDM6117
1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd cynllunio'r gweithlu i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg fel agwedd ganolog o ymdrechion y Llywodraeth i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i gyflwyno strategaeth genedlaethol Cymraeg yn y gweithle er mwyn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle a hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o hawliau i dderbyn gwasanaethau drwy'r Gymraeg.
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Comisiynyomisiynydd y Gymraeg er mwyn gweithredu argymhelliad 4 yn adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol: Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog, i roi dyletswydd statudol i awdurdodau lleol, gan gynnwys yn eu swyddogaeth fel awdurdodau addysg lleol, i gynllunio gweithlu o safbwynt sgiliau ieithyddol, ac i baratoi hyfforddiant addas i gwrdd â'r anghenion hynny.