Cynigion a Gwelliannau i’w trafod yn y Dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 18 Rhagfyr 2012
NNDM5125 Edwina Hart (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Twf a Seilwaith sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/growthandinfrastructure.html