Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 20 Chwefror 2008
Cynigion a Gyflwynwyd ar 14 Ionawr 2008
NNDM3843
Helen Mary Jones (Llanelli)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.50:
Yn cytuno y caiff Helen Mary Jones gyflwyno Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 12 Rhagfyr 2007 dan Reol Sefydlog 22.48, a Memorandwm Esboniadol.
Gellir gweld y Gorchymyn arfaethedig amlinellol trwy ymweld â’r ddolen ganlynol:
h
ttp://www.assemblywales.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislative-ballots/busnes-gorchmynion-cymhwysedd-deddfwriaethol-balot-26-06-07/business-legislative-competence-orders-lco-010.htm
Cynigion a gyflwynwyd ar 13 Chwefror 2008
Dadl Fer
NDM3865 Karen Sinclair (De Clwyd): Gweithio i asiantaeth yng Nghymru.
NDM3866 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar effaith ariannol clwy’r traed a’r genau ar gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Ionawr 2008.
NDM3867 Alun Davies (Mid and West Wales)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar y modd y craffodd yr is-bwyllgor ar ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i'r achosion o glwy'r traed a'r genau, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Ionawr 2008.
NDM3868 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn rhoi mwy o bwyslais ar chwaraeon ac yn annog mwy o weithgareddau chwaraeon a hamdden yn y gymuned yn gyffredinol, er mwyn gwella iechyd a lles y wlad;
2. Yn gwella "mynediad i bawb" at gyfleusterau chwaraeon a hamdden;
3. Yn nodi gyda gofid nad yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymgysylltu â threfnwyr Gemau Olympaidd Llundain yn 2012, a, hyd yma, heb lwyddo i ddenu cyllid ychwanegol i Gymru o ganlyniad i'r Gemau.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 15 Chwefror 2008
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3868
1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai ysgolion ddarparu o leiaf dwy awr yr wythnos o weithgarwch corfforol ar y cwricwlwm ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ymrwymo adnoddau tuag at y nod hwn.
2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden i bobl ifanc gyda'r nos a dros wyliau'r ysgol.
3. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu’r cyfan ar ôl “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a gosod yn ei le:
1. Yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i roi rhagor o bwyslais ar chwaraeon ac i annog cynnydd cyffredinol mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden yn y gymuned, er mwyn gwella iechyd a lles y wlad;
2. Yn croesawu camau’r Llywodraeth i roi “mynediad i bawb” at gyfleusterau chwaraeon a hamdden;
3. Yn llongyfarch y Llywodraeth ar ei gwaith hyd yma yn helpu busnesau Cymru i ennill contractau’r Gemau Olympaidd ac yn denu tîm Paralympaidd Awstralia i hyfforddi yng Nghymru;
4. Yn cefnogi barn Llywodraeth Cynulliad Cymru na ddylid defnyddio rhagor o gyllid y Loteri yng Nghymru i ysgwyddo costau’r Gemau Olympaidd;
5. Yn cefnogi barn y Llywodraeth y dylid sicrhau bod unrhyw wariant yn Llundain ar adfywio a thrafnidiaeth, nad yw’n gysylltiedig â’r Gemau, yn dwyn manteision i Gymru drwy fformiwla Barnett.