20/05/2008 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 20 Mai 2008

Cynigion a gyflwynwyd ar 13 Mai 2008

NDM3938

Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 11(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Gofynion ynghylch Cydsyniad Awdurdodau Lleol) (Cymru a Lloegr) 2008, y gosodwyd drafft ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mai 2008.

Gosodwyd Datganiad Esboniadol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mai 2008.
Mae copïau o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (fel y’i diwygiwyd) ar gael o Lyfrgell yr Aelodau.

NDM3939

Gwenda Thomas (Castell-nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:

Yn cymeradwyo Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2008

Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 12 Mai 2008;

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Gofal Cartref gerbron y Cynulliad ar 14 Mawrth 2008.