Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 20 Mehefin 2017
Cynnig a gyflwynwyd ar 13 Mehefin 2017
NDM6330 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mai 2017.
Cynnig a gyflwynwyd ar 20 Mehefin 2017
NDM6337 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2R ac 17.2A, yn cytuno mai'r grwpiau gwleidyddol y caiff cadeiryddion pwyllgorau eu hethol ohonynt fydd fel a ganlyn:
(i) Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Llafur;
(ii) Y Pwyllgor Deisebau - UKIP.