Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 21 Mehefin 2011
Cynigion a gyflwynwyd ar 14 Mehefin 2011
Dadl Fer
NDM4729 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Prydau ysgol heb stigma
NDM4739 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau’r Diwydiant Dwr (Cynlluniau i Fabwysiadu Carthffosydd Preifat) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mai 2011.
NDM4740 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r modd y caiff addysg uwch rhan-amser ei hariannu ac i sicrhau cyllid mwy teg ar gyfer myfyrwyr rhan-amser sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.
Cynigion a gyflwynwyd ar 3 Mehefin 2011
NDM4727 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NNDM4634, ddarpariaethau pellach a gyflwynwyd yn y Bil Ynni ynghylch Dal a Storio Carbon, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gellir cael mynediad i NNDM4634 drwy’r hyperddolen a ganlyn:
http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-third-assembly/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-motions.htm?act=dis&id=207234&ds=1/2011
I weld copi o’r Bil Ynni:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/energyhl.html
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 16 Mehefin 2011
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4740
1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu ‘Yn croesawu’ a rhoi “Yn nodi” yn ei le.
2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mai nod y diwygio hwn yw trin myfyrwyr rhan amser ac amser llawn yn gyfartal.
3. Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori’n llawn â sefydliadau addysg uwch wrth asesu effaith unrhyw newidiadau i’r trefniadau cyllido ar gyfer addysg uwch ran amser.