22/11/2016 - Cynnig â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 15/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/11/2016

​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 22 Tachwedd 2016

 

Cynnig a gyflwynwyd ar 15 Tachwedd 2016

 
NDM6168 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1.  Yn cymeradwyo bod fersiwn ddrafft The Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2016.