23/03/2017 - Cynnig Heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 24/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/03/2017

​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod yn y Dyfodol

Cynnig a gyflwynwyd ar 23 Mawrth 2017

NDM6273 Huw Irranca–Davies (Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i bob gyrrwr tacsi a cherbyd llogi preifat (PVH) ddilyn cwrs hyfforddiant ar gydraddoldeb i bobl anabl fel un o amodau cael eu trwydded.

2. Diben y Bil hwn fyddai:

a) helpu i sicrhau bod gyrwyr tacsis a cherbydau llogi preifat yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 sy'n nodi'n glir bod angen i yrwyr tacsis a cherbydau llogi preifat gludo ci cymorth person anabl a chaniatáu iddo aros gyda'r person anabl heb godi unrhyw dâl ychwanegol am wneud hynny;

b) sicrhau na wahaniaethir yn erbyn pobl anabl na allant yrru na defnyddio cludiant cyhoeddus wrth geisio byw eu bywyd bob dydd; ac

c) lleihau unrhyw bwysau newydd ar yrwyr trwyddedig, gan gynnwys:

i) peidio â'i gwneud yn ofynnol iddynt ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant tan y tro nesaf y maent yn adnewyddu eu trwyddedau; a

ii) eithrio'r hyfforddiant ar gyfer gyrwyr sydd eisoes wedi ymgymryd â hyfforddiant cydraddoldeb i bobl anabl i safon ddigonol a'r rhai na allant gwblhau'r hyfforddiant am resymau meddygol.

'Deddf Cydraddoldeb 2010'