24/02/2009 - Cynigion heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014


Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod yn y Dyfodol

Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Chwefror 2009

NNDM4153 Jenny Randerson (Canol Caerdydd)

Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Gorchymyn Sefydlog 22.50, yn cytuno y caiff Jenny Randerson gyflwyno Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 23 Ionawr 2009 dan Reol Sefydlog Rhif 22.48, a Memorandwm Esboniadol.

Gellir gweld y Gorchymyn arfaethedig amlinellol a’r Memorandwm Esboniadol trwy ymweld â’r ddolen ganlynol:

http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislative-ballots/busnes-gorchmynion-cymhwysedd-deddfwriaethol-balot-26-06-07/lco-077.htm