Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 25 Ionawr 2011
Cynigion a gyflwynwyd ar 14 Ionawr 2011
NDM4634 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
I gynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau sy'n ymwneud â'r Awdurdod Glo yn Rhan 4 o'r Mesur Ynni, fel y'i cyflwynwyd i Dy'r Arglwyddi ar 8 Rhagfyr 2010, i'r graddau y mae'r darpariaethau'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Ionawr 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 26.2(i).
I weld copi o’r Mesur Ynni
ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/energyhl.html
Cynigion a gyflwynwyd ar 18 Ionawr 2011
NDM4635 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Mesur Arfaethedig Ynghylch Tai (Cymru).
Gosodwyd Mesur Arfaethedig Ynghylch Tai (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 22 Tachwedd
2010;
Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 ar Mesur Arfaethedig Ynghylch Tai (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 18 Ionawr
2011.
NDM4636 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig Ynghylch Tai (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii), sy’n codi o ganlyniad I’r Mesur.
NDM4637 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi’r sefyllfa arfaethedig ar gyfer ariannu’r heddlu yng Nghymru yn y dyfodol yn sgil Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU; ac
2. Yn nodi asesiad Awdurdodau Heddlu Cymru o’r setliad ac yn credu y gall hyn gael effaith sylweddol ar wasanaethau.
Mae copi o ddatganiad ysgrifenedig Llywodraeth y DU ar 13 Rhagfyr 2010 ynghylch dyraniadau grant dros dro i awdurdodau’r heddlu yng Nghymru a Lloegr ar gyfer 2011/12 ar gael drwy ddilyn yr hyperddolen a ganlyn: .
Mae copi o ddatganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cynulliad Cymru ar 13 Rhagfyr 2010 ynghylch Setliad Dros Dro yr Heddlu 2011-12 ar gael drwy ddilyn yr hyperddolen a ganlyn:
http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2010/101213police/?skip=1&lang=cy
Anfonwyd copi o’r papur ar faterion ariannol gwasanaeth yr heddlu a gafodd ystyriaeth gan Bwyllgor Cyllid ac Archwilio Awdurdodau Heddlu Cymru ar 14 Ionawr 2011 mewn e-bost at Aelodau’r Cynulliad ar 18 Ionawr 2011.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 20 Ionawr 2011
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4637
Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi Adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi ‘Police Governance in Austerity’ a ddaeth i’r canlyniad y dylai awdurdodau heddlu, cyn iddynt gael eu dirwyn i ben, ganolbwyntio ar osod cyfeiriad fforddiadwy ar gyfer plismona, yn ogystal ag archwilio costau a dewisiadau amgen sy’n cynnig gwell gwerth am arian ar gyfer y cyhoedd.
Gellir gweld yr adroddiad ‘Police Governance in Austerity’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://www.hmic.gov.uk/inspections/pages/policeauthorityinspections.aspx