25/09/2013 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 25 Medi 2013

Cynigion a gyflwynwyd ar 18 Medi 2013

Dadl Fer

NDM5305

Julie James (Gorllewin Abertawe): Manteision Canmlwyddiant Dylan Thomas i Gymru

NDM5302

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod gan fwyafrif y plant a gaiff eu gwahardd neu eu dysgu y tu allan i leoliad ysgol anghenion dysgu ychwanegol neu arbennig, eu bod yn fechgyn, y gallant hawlio prydau ysgol am ddim, eu bod yn blant sy’n derbyn gofal, neu y cânt eu dysgu’n aml mewn uned cyfeirio disgyblion;

2. Yn cydnabod yr anghysondebau rhwng awdurdodau lleol ynghylch addysg y tu allan i leoliad ysgol;

3. Yn annog Llywodraeth Cymru i ostwng y cyfnod gorfodol lle mae gofyn i awdurdodau lleol ddarparu addysg i ddisgyblion wedi’u gwahardd; a

4. Yn galw am roi strategaeth gydlynol ar waith ar gyfer disgyblion a gaiff eu dysgu y tu allan i leoliad ysgol, er mwyn monitro a gwella eu cyfleoedd a’u canlyniadau addysgol.

NDM5304

Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn nodi bod galwad olaf am dystiolaeth y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk) yn dod i ben ddydd Gwener, 27 Medi 2013.

2. Yn nodi bod y gwaith ymchwil a wnaethpwyd ar ran Comisiwn Silk yn dangos cefnogaeth sylweddol dros roi rhagor o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth benodol dros drosglwyddo pwerau ynni adnewyddadwy (70%), plismona (63%) a darlledu a rheoleiddio’r cyfryngau (58%).

3. Yn nodi ymhellach y gefnogaeth a welwyd y llynedd dros drosglwyddo pwerau ariannol, gyda 64% yn cefnogi trosglwyddo pwerau treth incwm i Lywodraeth Cymru, 80% yn cefnogi pwerau benthyca ar gyfer prosiectau seilwaith, a 72% o blaid trethi ‘cymell’.

4. Yn mynegi pryder bod Llywodraeth y DU wedi oedi cymaint cyn ymateb i adroddiad cyntaf Comisiwn Silk, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i lynu wrth yr amserlen a nodwyd gan Gomisiwn Silk, a bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cyhoeddi eu hymatebion yn brydlon i’r ail adroddiad pan gaiff ei gyhoeddi’r gwanwyn nesaf.

NDM5306

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd y Grant Amddifadedd Disgyblion wrth helpu i dorri’r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol, a chau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a’r rheini o gefndiroedd mwy breintiedig.

2. Yn nodi’r gwaith ymchwil diweddar gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru i effaith y Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru, sydd:

a) yn dangos bod y cyllid yn cael effaith gadarnhaol ar lefelau cyrhaeddiad plant o gefndiroedd tlotach ac ar wella hyder a phresenoldeb; a

b) yn archwilio ffyrdd o wella’r grant yn y dyfodol.

3. Yn nodi bod y cyllid ar gyfer y Premiwm Disgyblion yn Lloegr wedi cynyddu o un flwyddyn i’r llall, o £488 fesul disgybl cymwys yn 2011-12 i £1300 yn 2014-15 o’i gymharu â £450 fesul disgybl cymwys yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynyddu’n sylweddol y cyllid ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion fesul disgybl yn y gyllideb nesaf;

b) archwilio’r manteision o ehangu’r Grant Amddifadedd Disgyblion i ddisgyblion o dan bump oed;

c) sicrhau bod y canllawiau ar y grant yn glir ac yn gryno ac yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu Pecyn Cymorth Ymddiriedolaeth Sutton ar gyfer Cymru;

d) darparu sicrwydd dros ddyfodol y Grant Amddifadedd Disgyblion a gwybodaeth amserol am ddyraniadau unigol i ysgolion;

e) annog ysgolion i gael polisi clir ar gyfer monitro a gwerthuso cadarn gan sicrhau nad yw’r broses yn or-fiwrocrataidd; ac

f) sefydlu fformiwla gyllido decach sy’n sicrhau bod y cyllid yn adlewyrchu’n gywir nifer y disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a gaiff eu cefnogi gan gyllid y Grant Amddifadedd Disgyblion.

Mae’r gwaith ymchwil gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru ar y Grant Amddifadedd Disgyblion ar gael yn:

http://welshlibdems.org.uk/en/document/learning-lessons-from-the-pupil-deprivation-grant.pdf

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 20 Medi 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5302

1. Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi’r canlynol yn eu lle:

Yn nodi:

a) bod Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau bod Awdurdodau Lleol yn cyflawni eu dyletswyddau cyfredol mewn perthynas â darparu addysg i ddisgyblion sydd wedi’u gwahardd; a

b) y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod polisïau ac arferion da yn cael eu gweithredu’n drylwyr i ofalu bod plant a addysgir y tu allan i leoliad ysgol yn cael gwell canlyniadau.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ym mhwynt 1, cynnwys ar ôl ‘blant sy’n derbyn gofal’:

‘eu bod o gefndiroedd difreintiedig, eu bod o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, eu bod mewn ysgolion neu ddosbarthiadau mawr,’

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu wrth y diffyg cynnydd o ran helpu plant sydd wedi cael eu gwahardd o’r ysgol ers yr adroddiad ymchwil yn 2011 a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar waharddiadau anghyfreithlon o’r ysgol yng Nghymru.

Mae’r adroddiad ar gael yn:

http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/schoolshome/pupilsupport/illegalexclusions/?skip=1&lang=cy

4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl ‘wedi’u gwahardd’ a chynnwys:

‘ac i adrodd ar y camau y mae’n eu cymryd i helpu’r plant hynny sydd wedi’u gwahardd neu’n cael eu dysgu y tu allan i leoliad ysgol i gael eu hailintegreiddio cyn gynted â phosibl;’

5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio i ba raddau y mae cyrsiau hyfforddi athrawon yn arfogi athrawon â’r sgiliau angenrheidiol i gefnogi myfyrwyr sydd mewn perygl o gael eu gwahardd neu sy’n cael eu dysgu y tu allan i leoliad ysgol.

6. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:

‘a bod Llywodraeth Cymru yn nodi’r camau y bydd yn eu cymryd i weithredu argymhellion adroddiad 2013 ar werthuso’r ddarpariaeth addysg i blant a phobl ifanc sy’n cael eu dysgu y tu allan i’r ysgol.’

Mae’r adroddiad ar gael yn:

http://wales.gov.uk/about/aboutresearch/social/latestresearch/education-provision-children-young-people-educated-outside-school-setting/?skip=1&lang=cy

NDM5304

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i greu gwell trefn lywodraethu i Gymru o fewn y Deyrnas Unedig drwy gyflwyno’r refferendwm ar bwerau deddfu sylfaenol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlu’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk) ar bwerau ac atebolrwydd ariannol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod angen ystyried ac asesu Rhan I Silk, Grymuso a Chyfrifoldeb, yn ofalus o ran ei heffaith ar rannau eraill o’r Deyrnas Unedig a’r manteision i Gymru ac, ar ôl cwblhau’r asesiadau hynny, edrych ymlaen at gyflwyno’n brydlon y mesurau a amlinellwyd yn Rhan I Silk i greu gwell atebolrwydd dros gyllid Cymru.

Mae Rhan I Silk ar gael yn:

http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/cy/

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi sefydlu Comisiwn Silk, yn unol â’r ymrwymiad yng nghytundeb clymblaid Llywodraeth y DU.

4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cefnogi datganoli pwerau ariannol dros drethi a benthyca fel yr argymhellwyd gan Ran I Comisiwn Silk.

Mae Rhan I Silk ar gael yn:

http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/cy/

NDM5306

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 2 a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu wrth y diffyg eglurder o ran deall a gweithredu’r Grant Amddifadedd Disgyblion ar draws yr ysgolion a arolygwyd.