25/11/2009 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 25 Tachwedd 2009

Cynigion a gyflwynwyd ar 18 Tachwedd 2009

Dadl Fer

NDM4334 Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Ar y cledrau cywir? Gwasanaethau trenau yng ngorllewin Cymru

NDM4333 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2009/2010

Rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU:

http://www.commonsleader.gov.uk/output/Page2910.asp

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 20 Tachwedd 2009

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4333

1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn condemnio Llywodraeth y DU am fethu rhoi sylw i’r problemau a wynebir gan bobl Cymru a’r DU yn ei rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer 2009/2010.

2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod llai na 70 diwrnod deddfu ar ôl cyn diddymu’r Senedd ac yn credu ei bod yn annhebygol iawn y cyflawnir yr agenda ddeddfwriaethol ddrafft yn Araith y Frenhines.

3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu nad yw’r Mesur Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu yn mynd yn ddigon pell ar drywydd diwygiadau gwleidyddol hanfodol er mwyn adfer ymddiriedaeth yn y system wleidyddol.

4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth y diffyg pwerau fframwaith dros ddiwygio etholiadol ym maes llywodraeth leol yn y Mesur Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu.

5. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth y diffyg pwerau fframwaith dros gyllido a llywodraethu ysgolion yn y Mesur Plant, Ysgolion a Theuluoedd.

6. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth y diffyg pwerau fframwaith dros blismona yn y Mesur Trosedd a Diogelwch.

7. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid defnyddio’r Mesur Trosedd a Diogelwch i ddatblygu strategaeth ar gyfer datganoli cyfiawnder i Gymru.

8. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu ei bod yn rhaid ymdrechu i sicrhau bod darpariaeth band eang yng Nghymru gystal â’r ddarpariaeth yn Lloegr yn y Mesur Economi Ddigidol.

9. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai’r Mesur Economi Ddigidol sefydlu Consortiwm Newyddion a Gyllidir yn Annibynnol yng Nghymru ac y dylai corff yng Nghymru wneud y penderfyniadau comisiynu sy’n berthnasol i hyn.

10. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu ei bod yn rhaid i Lywodraeth y DU ddiogelu gwasanaethau rheng flaen mewn unrhyw ymgais i leihau’r diffyg yn y gyllideb o ganlyniad i’r Mesur Cyfrifoldeb Ariannol.

11. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth y diffyg pwerau fframwaith dros feini prawf cymhwyso ar gyfer gofal personol yn y Mesur Gofal Personol Gartref.