26/01/2016 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 19/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 26 Ionawr 2016

Cynigion a gyflwynwyd ar 19 Ionawr 2016

NDM5926 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2015.

NDM5927 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2015.

NDM5928 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2015.

NDM5929 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau, Apeliadau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2015.

NDM5930 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Rheoleiddio Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar  4 Rhagfyr 2015.

NDM5931 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Rhagfyr 2015.

NDM5932 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Undebau Llafur sy'n ymwneud â gofyniad trothwy pleidleisio ychwanegol ar gyfer gweithredu diwydiannol mewn gwasanaethau cyhoeddus pwysig, amser o'r gwaith â thâl i gynrychiolwyr undebau llafur a threfniadau didynnu tâl aelodaeth undeb o gyflogau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Tachwedd 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i) a (iii).

Y Bil Undebau Llafur

NDM5933 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:

a) adran 3

b) atodlen 1

c) adrannau 4-22

d) adran 2

e) adran 24

f) atodlen 2

g) adrannau 25-32

h) adran 23

i) adrannau 33-42

j) adran 1

k) Teitl Hir