27/01/2016 - Cynnig heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 27/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/01/2016

Cynigion a gwelliannau i'w trafod yn y dyfodol

Cynigion a gyflwynwyd ar 27 Ionawr 2016

NNDM5942

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Elin Jones (Ceredigion)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at nifer y canghennau banc sydd wedi'u cau yng Nghymru ac, yn arbennig, pa mor aml y mae canghennau yn cael eu cau hyd yn oed pan y gangen banc yw'r banc olaf yn yr ardal.

2. Yn galw ar fanciau i ystyried effaith cau canghennau banc ar gymunedau trefol a gwledig ac unigolion, yn enwedig pobl hŷn a busnesau bach, cyn i benderfyniadau terfynol ar gau gael eu gwneud.

3. Yn galw ar fanciau i gynnal ymgynghoriad ystyrlon, gan gynnwys sefydliadau cymunedol lleol, sefydliadau pensiynwyr a grwpiau busnes cyn dod i benderfyniadau terfynol ar gau canghennau, yn enwedig pan y gangen banc dan sylw yw'r unig un sydd ar ôl yn yr ardal.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol er mwyn sicrhau eu bod yn ystyried effaith cau canghennau banc wrth lunio eu polisïau perthnasol ar wasanaethau ariannol, datblygu economaidd a rheoleiddio ariannol.

Cefnogir gan:

Christine Chapman (Cwm Cynon)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Russell George (Sir Drefaldwyn)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

David Rees (Aberafan)

Sandy Mewies (Delyn)

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

Alun Ffred Jones (Arfon)

Gwyn Price (Islwyn)

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)