Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 28 Tachwedd 2007
Cynigion a Gyflwynwyd ar 21 Tachwedd 2007
Dadl Fer
NDM3823
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Amddiffyn Plant rhag y Rhyngrwyd.
NDM3824
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer y cyfnod rhwng mis Tachwedd 2007 a mis Tachwedd 2008.
2. Yn nodi bod y Mesurau arfaethedig a ganlyn yn arbennig o berthnasol i gyfrifoldebau’r Cynulliad:
Mesurau â phwerau fframwaith:
Mesur Trafnidiaeth Leol
Mesur Addysg a Sgiliau
Mesur CynllunioMesurau â darpariaethau ar gyfer Cymru:
Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mesur Gwerthu Benthyciadau Myfyrwyr
Mesur Plant a Phobl Ifanc
Mesur Gorfodaeth a Chosbau Rheoleiddiol
Mesur Cyfrifon Banc a Chymdeithas Adeiladu Segur
Mesur Tai ac Adfywio
Mesur Newid yn yr Hinsawdd
Mesur Ynni
Mae’r Mesurau hynny a gyhoeddwyd ar gael drwy’r hyperddolenni canlynol:
h
ttp://www.commonsleader.gov.uk/output/Page2013.asp
The Queen’s Speech
h
ttp://www.number10.gov.uk/output/Page13709.asp
Local Transport Bill
h
ttp://www.publications.parliament.uk/pa/ld200708/ldbills/001/08001.i-v.html
Health and Social Care Bill
h
ttp://www.publications.parliament.uk/pa/cm200708/cmbills/009/08009.i-v.html
Sale of Student Loans Bill
h
ttp://www.publications.parliament.uk/pa/cm200708/cmbills/006/08006.i-i.html
Children and Young Persons Bill
h
ttp://www.publications.parliament.uk/pa/ld200708/ldbills/008/08008.i-iii.html
Regulatory Enforcement and Sanctions Bill
h
ttp://www.publications.parliament.uk/pa/ld200708/ldbills/007/08007.i-iv.html
Dormant Bank and Building Society Accounts Bill
h
ttp://www.publications.parliament.uk/pa/ld200708/ldbills/002/08002.i-ii.html
Housing and Regeneration Bill
h
ttp://www.publications.parliament.uk/pa/cm200708/cmbills/008/08008.i-v.html
Climate Change Bill
h
ttp://www.publications.parliament.uk/pa/ld200708/ldbills/009/08009.i-iv.html
NDM3825
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.9:
Yn cytuno:
1. Ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2008/9, fel y nodir yn Nhabl 1 "Cynigion Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2008/9”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 21 Tachwedd 2007.
2. Ymgorffori’r gyllideb yn y cynnig blynyddol am y gyllideb dan Reol Sefydlog 27.17(ii).
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 23 Tachwedd 2007
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3824
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn nodi gyda gofid na chynhwyswyd Mesur i sefydlu Dydd Gwyl Dewi fel gwyliau cyhoeddus yng Nghymru.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn nodi gyda gofid na chynhwyswyd Mesur i ddatganoli rheoliadau adeiladu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
3. William Graham (Dwyrain De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn nodi gyda gofid na chynhwyswyd Mesur i lawn gydnabod gwerth addysg alwedigaethol a datblygu sgiliau ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 19 oed yn y system addysg.
4. William Graham (Dwyrain De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn nodi gyda gofid na chynhwyswyd Mesur i hyrwyddo a chydnabod busnesau bach a chanolig eu maint sydd wedi cyflwyno neu ymestyn eu darpariaeth o ofal plant a gweithio hyblyg.