30/06/2014 - Cynigion heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 05/08/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/08/2014

Cynigion a gwelliannau i'w trafod yn y dyfodol

Cynigion a gyflwynwyd ar 30 Mehefin 2014

NNDM5548 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio sy’n ymwneud â Phennod 4 o Ran 6 o Ddeddf Tai 2004 (Cynlluniau Blaendal Tenantiaeth) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 4) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Mae copi o'r Bil Dadreoleiddio ar gael yma:

Dogfennau'r Bil – Bil Dadreoleiddio [HC] 2013-14 – Senedd y DU