761 - CY

Cyhoeddwyd 09/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2015

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG

A GYFLWYNWYD AR 8/12/15

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.

OPIN-2015-0370 Cyllid canlyniadol Barnett o ganlyniad i HS2

Cyflwynwyd gan:

Rhun ap Iorwerth

Tanysgrifwyr:

Cyllid canlyniadol Barnett o ganlyniad i HS2

Mae'r Cynulliad hwn:

Yn condemnio datganiad polisi cyllido Llywodraeth y DU, sy'n rhoi cyllid canlyniadol o 0 y cant i Gymru o ganlyniad i HS2, tra bod yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael 100 y cant;

Yn nodi bod y cyllid canlyniadol o 0 y cant o ganlyniad i HS2 yn lleihau'n sylweddol canran cymharedd Cymru, a gafodd ei chymhwyso i gyfrifo cyfanswm dyraniad Barnett Adran Drafnidiaeth y DU;

Yn nodi ffigurau KPMG sy'n dangos colled i economi Cymru o hyd at £178 miliwn y flwyddyn o ganlyniad i HS2; ac

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod Llywodraeth y DU yn newid ei datganiad o bolisi cyllido i roi cyfran deg o gyllid canlyniadol o ganlyniad i HS2 i Gymru.