DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 12/02/2008
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2008- 0018 - Gostwng y lefel alcohol yn y gwaed i yrwyr
Codwyd gan
Kirsty Williams
Tanysgrifwyr
Jeff Cuthbert 18/02/2008
Val Lloyd 18/02/2008
Trish Law 18/02/2008
Peter Black 19/02/2008
Irene James 19/02/2008
Nerys Evans 19/02/2008
Dai Lloyd 22/02/2008
Joyce Watson 26/02/2008
Mick Bates 07/04/2008
Gostwng y lefel alcohol yn y gwaed i yrwyr
Mae'r Cynulliad hwn yn nodi â phryder y 3360 o bobl a gafodd eu hanafu ar y ffordd, rhwng 2001-2006, mewn damweiniau lle cafwyd o leiaf un prawf anadl positif.
Mae'r Cynulliad hwn yn cefnogi galwad Cymdeithas Feddygol Prydain i ostwng y lefel alcohol a ganiateir yn y gwaed a chyfleu neges symlach y gall yfwyr ei ddeall.
Felly, mae'r Cynulliad hwn yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddiwygio'r gyfraith ar yfed a gyrru drwy ostwng y lefel uchaf o alcohol a ganiateir yng ngwaed gyrwyr o 80mg i 50 mg, sef y lefel gyffredin yn Ewrop, yn unol ag argymhellion Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu.