DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 17/06/2008
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2008- 0051 - Wythnos Anadlu’n Rhydd 2008
Codwyd gan:
Val Lloyd
Tanysgrifwyr:
Lesley Griffiths 18/06/2008
Jenny Randerson 19/06/2008
Kirsty Williams 20/06/2008
Trish Law 24/06/2008
Chris Franks 25/06/2008
Mick Bates 01/07/2008
Wythnos Anadlu’n Rhydd 2008
Mae’r Cynulliad hwn yn cefnogi Wythnos Anadlu’n Rhydd Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint (16 - 22 Mehefin, 2008)
Yn cydnabod bod dosbarthiadau adsefydlu’r ysgyfaint yn bwysig ar gyfer gwella ansawdd bywyd cleifion sydd â chlefyd yr ysgyfaint.
Yn cydnabod mai dim ond drwy barhau ag ymarfer corff ar ôl y dosbarthiadau y caiff manteision dosbarthiadau o’r fath eu cynnal.
Yn croesawu menter Cadw’n Heini Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint sy’n helpu pobl sydd â chlefyd yr ysgyfaint i gymryd rhan mewn rhaglenni ymarfer corff sydd wedi’u teilwra’n arbennig.
Yn galw ar y Cynulliad i sicrhau mynediad gwell at adsefydlu’r ysgyfaint ar draws Cymru gyfan fel y nodir ym mharagraff 3.6 y Cyfarwyddebau Datblygu a Chomisiynu Gwasanaethau ar gyfer Cyflyrau Resbiradol Cronig.