DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 14/10/2008
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2008- 0076 - TAW ar Atgyweirio a Gwneud Gwelliannau i Adeiladau Presennol
Codwyd gan:
Kirsty Williams
Tanysgrifwyr:
Leanne Wood 17/10/2008
Peter Black 21/10/2008
Trish Law 21/10/2008
Jenny Randerson 23/10/2008
Mike German 28/10/2008
Huw Lewis 28/10/2008
Mick Bates 18/11/2008
Joyce Watson 10/02/2009
TAW ar Atgyweirio a Gwneud Gwelliannau i Adeiladau Presennol
Mae’r Cynulliad hwn yn cefnogi galwadau gan Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr i leihau cyfradd treth ar werth (TAW) o 17.5 % i 5 % ar atgyweirio a gwneud gwelliannau i adeiladau presennol;
yn credu y bydd lleihau TAW yn helpu i allu ailddefnyddio miloedd o gartrefi gwag ledled Cymru;
yn credu y bydd lleihau TAW yn galluogi miloedd o deuluoedd i uwchraddio eu cartrefi i’w gwneud yn fwy effeithiol o ran ynni;
yn credu y bydd lleihau TAW yn lleihau mantais fasnachol adeiladwyr cowboi yn sylweddol;
yn galw ar Lywodraeth y DU i leihau TAW ar atgyweirio a gwneud gwelliannau i adeiladau.