DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 27/05/2009
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2009-0054 - Diwrnod Gweriniaeth - Mehefin 2il 2009
Codwyd gan:
Bethan Jenkins
Tanysgrifwyr:
Nerys Evans 01/07/2009
Leanne Wood 01/07/2009
Helen Mary Jones 01/07/2009
Diwrnod Gweriniaeth - Mehefin 2il 2009
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bod Mehefin 2il yn Ddiwrnod Gweriniaeth;
Yn nodi bod Diwrnod Gweriniaeth yn ddiwrnod o weithredu a’i fod wedi’i gydlynu gan Republic, yr ymgyrch ar gyfer Pennaeth Gwladwriaeth etholedig;
Yn galw ar weriniaethwyr ledled Cymru i fynegi eu gwrthwynebiad i’r frenhiniaeth;
Yn cadarnhau nad yw’r frenhiniaeth yn atebol nac yn ddemocrataidd a'i bod yn wastraffus iawn;
Yn galw am ddadl genedlaethol ar sefydlu pennaeth gwladwriaeth a etholir yn ddemocrataidd.