DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 12/06/2009
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2009-0060 - Wythnos Ffoaduriaid 15 - 19 Mehefin 2009
Codwyd gan:
Bethan Jenkins
Tanysgrifwyr:
Joyce Watson 17/06/2009
Nerys Evans 19/06/2009
Gareth Jones 18/06/2009
Rhodri Glyn Thomas 01/07/2009
Dai Lloyd 01/07/2009
Leanne Wood 01/07/2009
Helen Mary Jones 01/07/2009
Chris Franks 01/07/2009
Mohammad Asghar 01/07/2009
Janet Ryder 01/07/2009
Wythnos Ffoaduriaid 15 - 19 Mehefin 2009
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol:
yn cydnabod Wythnos Ffoaduriaid ac yn nodi bod yna oddeutu 30 miliwn o ffoaduriaid ledled y byd;
yn cydnabod y cyfraniad pwysig a wneir gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches at fywyd Cymru;
yn cefnogi pum addewid Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn 'Gwlad i mi a gwlad i ti’;
ac yn galw am roi terfyn ar arfer Llywodraeth y DU o gadw ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gaeth.