DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 23/06/2009
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2009-0065 - Gofal Cymru a Gwobrau Loteri
Codwyd gan:
Jonanthan Morgan
Tanysgrifwyr:
Mick Bates 26/06/2009
Peter Black 29/06/2009
Kirsty Williams 29/06/2009
Jenny Randerson 29/06/2009
Darren Millar 30/06/2009
Val Lloyd 30/06/2009
Nerys Evans 01/07/2009
Mark Isherwood 13/07/2009
Gareth Jones 14/07/2009
Gofal Cymru a Gwobrau Loteri
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod llwyddiant Gofal Cymru wrth iddynt gael eu henwebu yng nghategori Prosiect Iechyd Gorau Gwobrau Loteri Genedlaethol 2009 am eu prosiect arloesol Tŷ Argyfwng;
Yn cefnogi gwaith Prosiect Tŷ Argyfwng Gofal yng Ngogledd Caerdydd, fel yr unig gynllun yng Nghymru sy’n cynnig dewis arall yn lle bod pobl ag argyfwng iechyd meddwl acíwt yn gorfod mynd i ysbyty seiciatrig.