DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 17/06/2010
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2010-0036 - Microsglodynnu Anifeiliaid Anwes
Codwyd gan:
Irene James
Tanysgrifwyr:
Trish Law 29/06/2010
Mick Bates 02/07/2010
Christine Chapman 20/09/2010
Microsglodynnu Anifeiliaid Anwes
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn croesawu Mis Cenedlaethol Microsglodynnu y Kennel Club sy'n rhedeg drwy gydol mis Mehefin;
Yn cydnabod bod Mis Cenedlaethol Microsglodynnu yn hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol o anifeiliaid anwes a microsglodynnu yw'r ffordd orau o adnabod anifeiliaid anwes yn barhaol;
Yn hybu microsglodynnu i helpu i olrhain anifeiliaid anwes a'u dychwelyd i'w perchnogion yn fwy effeithiol, gan leihau costau cadw anifeiliaid mewn cybiau i awdurdodau lleol.
Yn cydnabod mai dim ond os caiff manylion yr anifeiliaid anwes eu diweddaru a'u bod yn cael eu sganio'n rheolaidd y bydd y system microsglodynnu yn gwbl effeithiol;
Ac felly yn annog pob perchennog i ficrosglodynnu eu hanifeiliaid anwes.