DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 11/11/2010
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2010-0070 – Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Abertawe
Codwyd gan:
Dai Lloyd
Tanysgrifwyr:
Peter Black 17/11/2010
Gareth Jones 17/11/2010
Leanne Wood 17/11/2010
Chris Franks 17/11/2010
Val Lloyd 17/11/2010
Jenny Randerson 17/11/2010
Janet Ryder 18/11/2010
Nerys Evans 18/11/2010
Jenny Randerson 18/11/2010
Leanne Wood 08/12/2010
Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Abertawe
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gresynu wrth y cynigion i dorri dros 50% o'r swyddi yn Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Abertawe.
Yn deall yr amgylchiadau ariannol anodd sy'n wynebu prifysgolion ar hyn o bryd, ond yn credu y dylid cefnogi ieithoedd tramor modern, sef un o flaenoriaethau strategol cenedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru, er lles iechyd addysgol, economaidd a diwylliannol Cymru.
Yn credu y bydd y cynigion yn lleihau'r mynediad at ddarpariaeth ieithoedd yn sylweddol yng Ngorllewin De Cymru.
Yn credu y bydd y cynigion yn cael effaith negyddol ar statws Prifysgol Abertawe fel y prif ddarparwr ieithoedd tramor modern drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru.