DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 05/10/2011
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2011-0027 - Priodasau Sifil a Phartneriaethau Sifil
Codwyd gan:
Bethan Jenkins
Tanysgrifwyr:
Joyce Watson 10/01/2012
Peter Black 09/10/2012
Priodasau Sifil a Phartneriaethau Sifil
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn annog ac yn cefnogi perthnasau ymrwymedig, sefydlog gan eu bod yn dda i unigolion ac i les cymdeithas yn gyfan gwbl. Mae dileu gwahaniaethu mewn cyfraith perthnasau yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i gydraddoldeb ac yn galluogi cyplau i gynnal eu gofal a'u hymrwymiad parhaus i'w gilydd. I'r perwyl hwn, rydym yn cefnogi deddfwriaeth i roi terfyn ar y gwaharddiadau cyfreithiol deublyg ar briodasau sifil yr un rhyw a phartneriaethau sifil rhwng dau ryw. Mewn cymdeithas ddemocrataidd, dylai priodasau sifil a phartneriaethau sifil mewn swyddfeydd cofrestru ac eiddo trwyddedig eraill fod yn agored i bob cwpwl, yn gyplau o'r un rhyw neu o'r ddau ryw, heb wahaniaethu.