OPIN-2011-0085 – Lansio Maniffesto'r Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer Cymru 2011

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 18/01/2011

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2011-0085 – Lansio Maniffesto'r Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer Cymru 2011

Codwyd gan:

Darren Millar, Alun Davies and Kirsty Williams

Tanysgrifwyr:

Mick Bates 23/02/2011

Lansio Maniffesto'r Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer Cymru 2011

Mae’r Cynulliad hwn:

• Yn nodi bod y Lleng Brydeinig Frenhinol yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â phawb sy'n gwasanaethu ac yn cymeradwyo'r gwaith pwysig a wna i gefnogi miloedd o bobl ledled Cymru sydd wedi gwasanaethu neu sydd yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ar hyn o bryd, a'u teuluoedd.

• Yn croesawu lansio Maniffesto'r Lleng ar gyfer Cymru yn y Senedd am 12pm ddydd Iau 20fed Ionawr.

• Yn annog Aelodau i ymrwymo i gyfrannu ar-lein yn www.timetodoyourbit.org.uk fel rhan o ymgyrch "Amser i gyfrannu" y Lleng ac i ddangos eu cefnogaeth ar gyfer teulu cyfan y Lluoedd Arfog, nawr ac ar ôl yr etholiad.