DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 01/01/2011
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2011-0090 – Canllaw ar Arian Cymru
Codwyd gan:
Mark Isherwood
Tanysgrifwyr:
Darren Millar 21/02/2011
Nick Bourne 22/02/2011
Canllaw ar Arian Cymru
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu’r gwasanaeth rhad ac am ddim, Canllaw ar Arian Cymru, a gaiff ei lansio ym mis Ebrill gan Gyngor ar Bopeth Cymru ar gyfer pobl sy’n agored i wneud penderfyniadau ariannol gwael.
Yn nodi bod hwn wedi’i gyllido gan Gorff Addysg Ariannol Defnyddwyr, sy’n Asiantaeth o Lywodraeth y DU, drwy’r ardoll ar sefydliadau ariannol.