DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 09/01/2012
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2012-0050 - Gwella Acwsteg Ysgolion
Codwyd gan:
Mike Hedges
Tanysgrifwyr:
Darren Millar 10/01/2012
Peter Black 10/01/2012
Bethan Jenkins 10/01/2012
Aled Roberts 10/01/2012
Mohammad Asghar 10/01/2012
Vaughan Gething 10/01/2012
Mick Antoniw 10/01/2012
Keith Davies 10/01/2012
Jenny Rathbone 10/01/2012
Llyr Huws Gruffydd 10/01/2012
Rebecca Evans 10/01/2012
Suzy Davies 17/01/2012
Christine Chapman 19/01/2012
Antionette Sandbach 25/01/2012
Eluned Parrott 25/01/2012
Rhodri Glyn Thomas 07/03/2012
Joyce Watson 19/03/2012
Gwella Acwsteg Ysgolion
Mae’r Cynulliad hwn:
• Yn cydnabod y ceir mwy na 1,700 o ddisgyblion byddar yng Nghymru;
• Yn cydnabod bod acwsteg wael mewn ystafelloedd dosbarth yn rhwystr rhag dysgu i bob plentyn, yn enwedig i blant sydd â nam ar eu clyw;
• Yn croesawu’r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob ysgol a ariennir drwy ei Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn bodloni safonau acwsteg da;
• Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob adeilad coleg, meithrinfa ac ysgol newydd sy’n hwylus i blant â nam ar eu clyw yn cael eu hadeiladu mewn modd sy'n ystyriol o acwsteg, ac yn cael eu profi i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon sylfaenol ar gyfer acwsteg.