DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 17/02/2012
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2012-0063 - Cefnogi Cyfryngau Lleol
Codwyd gan:
Rhodri Glyn Thomas
Tanysgrifwyr:
William Powell 20/02/2012
Leanne Wood 22/02/2012
Bethan Jenkins 23/02/2012
Aled Roberts 24/02/2012
Llyr Huws Gruffydd 24/02/2012
Simon Thomas 27/02/2012
Cefnogi Cyfryngau Lleol
Mae’r Cynulliad hwn:
1. Yn nodi ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Newidiadau Gweithredol Arfaethedig ar gyfer Hysbysebu Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Ffyrdd, sy’n cynnwys cynigion ar gyfer tynnu’r gofyniad statudol presennol i roi hysbysiadau cyhoeddus mewn papurau newydd;<0\}
2. Yn gwerthfawrogi’r heriau ariannol sylweddol a wynebir gan bapurau newydd lleol;
3. Yn credu bod y newidiadau arfaethedig i’r ddeddfwriaeth bresennol wedi’u gwneud ar sail ariannol yn unig, na roddwyd fawr o bwys ar sicrhau bod y nifer fwyaf o bobl yn gweld yr hysbysiadau, ac y byddent yn niweidiol i ohebu cymunedol lleol; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi cyfryngau lleol ac i roi’r gorau i’w newidiadau arfaethedig i’r ddeddfwriaeth bresennol.