DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 22/05/2012
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2012-0094 - Cau Swyddfa RTÉ yn Llundain
Codwyd gan:
Ken Skates
Tanysgrifwyr:
William Powell 23/05/2012
Rebecca Evans 23/05/2012
David Rees 23/05/2012
Julie James 23/05/2012
Darren Millar 23/05/2012
Christine Chapman 30/05/2012
Cau Swyddfa RTÉ yn Llundain
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi â phryder y cynnig gan RTÉ (Radio Telefis Éireann) i gau ei swyddfa yn Llundain a rhoi’r gorau i’w waith yno o fis Medi 2012 ymlaen;
Yn cydnabod gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan y swyddfa a’i staff o ran rhoi gwybod i wylwyr yn Iwerddon am fywyd economaidd, gwleidyddol a diwylliannol Prydain, cyfrannu at ddatrys gwrthdaro yn heddychlon a hyrwyddo cysylltiadau agos rhwng ein hynysoedd;
Yn nodi pryder y gymuned Wyddelig yng Nghymru ynghylch colli’r cysylltiad hwn;
Yn annog Llywodraeth y DU i gefnogi’r achos dros aros a helpu i chwilio am ddewisiadau eraill yn hytrach na chau.