DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 02/10/2012
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2012-0117 – Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai
Codwyd gan:
Rebecca Evans
Tanysgrifwyr:
David Rees 03/10/2012
Lynne Neagle 03/10/2012
Mike Hedges 03/10/2012
Julie James 03/10/2012
Byron Davies 04/10/2012
Jocelyn Davies 04/10/2012
Christine Chapman 09/10/2012
Mark Drakeford 12/10/2012
Vaughan Gething 17/10/2012
Lindsay Whittle 22/10/2012
Darren Millar 23/10/2012
Mick Antoniw 23/10/2012
Eluned Parrott 30/10/2012
Leanne Wood 30/10/2012
Mark Isherwood 14/11/2012
Simon Thomas 21/11/2012
Suzy Davies 22/11/2012
Peter Black 22/11/2012
Paul Davies 23/11/2012
Jenny Rathbone 26/11/2012
William Graham 27/11/2012
David Melding 28/11/2012
Nick Ramsay 29/11/2012
Gwyn Price 29/11/2012
Julie Morgan 03/12/2012
Joyce Watson 03/12/2012
Ken Skates 06/12/2012
Llyr Huws Gruffydd 07/01/2013
Bethan Jenkins 07/01/2013
Mohammad Asghar 16/01/2013
Angela Burns 18/01/2013
Ann Jones 19/02/2013
Keith Davies 07/03/2013
Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn ymuno â’r Asiantaeth Safonau Bwyd a mudiadau lles anifeiliaid i gydnabod y rhan gadarnhaol y gall teledu cylch cyfyng ei chwarae i ddiogelu ac i fonitro lles anifeiliaid mewn lladd-dai;
Yn nodi bod manteision eraill yn perthyn i deledu cylch cyfyng hefyd, gan gynnwys gweithredu fel mesur diogelwch, dull o hyfforddi staff lladd-dai, milfeddygon ac arolygwyr hylendid cig, a helpu i atal bwlio yn y gweithle;
Yn croesawu’r hyder mawr sydd gan ddefnyddwyr yn ein cynnyrch rhagorol o Gymru, gartref a thramor; ac
Yn credu y gall teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai chwarae rhan i ddiogelu'r hyder hwnnw a'i ddatblygu ymhellach.