DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 04/10/2012
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2012-0120 – Gorymdaith Cyngres yr Undebau Llafur yn erbyn y toriadau
Codwyd gan:
Bethan Jenkins
Mick Antoniw
Tanysgrifwyr:
Llyr Huws Gruffydd 08/10/2012
David Rees 09/10/2012
Lynne Neagle 09/10/2012
Julie James 09/10/2012
Lindsay Whittle 09/10/2012
Christine Chapman 09/10/2012
Sandy Mewies 09/10/2012
Mark Drakeford 10/10/2012
Alun Ffred Jones 10/10/2012
Jocelyn Davies 10/10/2012
Elin Jones 10/10/2012
Simon Thomas 10/10/2012
Julie Morgan 11/10/2012
Rebecca Evans 11/10/2012
Ann Jones 11/10/2012
Vaughan Gething 11/10/2012
Gwenda Thomas 11/10/2012
Rhodri Glyn Thomas 16/10/2012
Leanne Wood 16/10/2012
Gorymdaith Cyngres yr Undebau Llafur yn erbyn toriadau
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn nodi penderfyniad Richard Evans (Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol), Steffan-Ap-Dafydd (Undeb Cenedlaethol yr Athrawon) a Cerith Griffiths (Undeb y Brigadau Tân) i gerdded y 156 o filltiroedd rhwng Caerdydd a Llundain i ymuno â rali Cyngres yr Undebau Llafur ar Hydref 20;
Yn eu llongyfarch ar eu hymgais i dynnu sylw at y bygythiad dybryd sy’n deillio o’r toriadau gwariant diangen o hyd at 40 y cant a wneir gan San Steffan, a'r niwed y bydd hyn yn ei wneud i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ogystal â'r cymunedau rydym yn byw ac yn gweithio ynddynt; ac
Yn dymuno siwrnai ddiogel iddynt hwy ac i'r nifer o bobl eraill a fydd yn derbyn yr her i orymdeithio ar Hydref 20.