DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 19/06/2013
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2013-0201 Confensiwn ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod
Codwyd gan:
Bethan Jenkins
Tanysgrifwyr:
Confensiwn ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn croesawu gwaith WEN Cymru i godi ymwybyddiaeth y Confensiwn ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW).
Yn cydnabod bod yn rhaid i sefydliadau cenedlaethol gymryd camau gweithredu i atal gwahaniaethu yn erbyn menywod a sicrhau cyfle cyfartal.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
gadw at egwyddorion y Confensiwn ar Ddileu pob ffurf ar Wahaniaethu yn Erbyn Menywod; a
phenodi Comisiynydd Menywod i sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu cymryd i leihau gwahaniaethu yn erbyn menywod.