DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 07/10/13
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2013-0223 Y Gwasanaeth Prawf yng Nghymru
Codwyd gan:
Mike Hedges
Tanysgrifwyr:
Keith Davies 08/10/2013
Bethan Jenkins 08/10/2013
Julie James 08/10/2013
Christine Chapman 09/10/2013
Joyce Watson 09/12/2013
Y Gwasanaeth Prawf yng Nghymru
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn cydnabod y rhan bwysig y mae’r Gwasanaeth Prawf yn ei chwarae yn y system cyfiawnder troseddol;
Yn cydnabod y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud gan Ymddiriedolaeth Prawf Cymru a swyddogion prawf wrth oruchwylio ac adsefydlu troseddwyr yn y gymuned ac wrth weithio i gefnogi dioddefwyr troseddau;
Yn mynegi pryder ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU i roi contractau’r gwasanaeth prawf allan i dendr i’r sectorau preifat a gwirfoddol; ac
Yn credu mai cyflogi swyddogion prawf yn uniongyrchol yw’r ffordd orau o ddarparu Gwasanaeth Prawf effeithiol ac effeithlon yng Nghymru.