DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 27/01/14
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2014-0257 - Galw am Adolygiad Cynhwysfawr o Weithdrefnau’r Cynulliad
Codwyd gan:
Andrew RT Davies
Tanysgrifwyr:
Mohammad Asghar 28/01/2014
Bethan Jenkins 28/01/2014
Janet Finch-Saunders 28/01/2014
Antoinette Sandbach 29/01/2014
Suzy Davies 29/01/2014
Mark Isherwood 29/01/2014
Byron Davies 30/01/2014
Paul Davies 31/01/2014
Russell George 04/02/2014
Galw am Adolygiad Cynhwysfawr o Weithdrefnau’r Cynulliad
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad oes adolygiad gweithdrefnol o fusnes y Cynulliad wedi cael e gynnal ers 2002;
2. Yn gofyn i'r Llywydd, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Busnes, gynnal adolygiad gweithdrefnol cynhwysfawr cyn gynted â phosibl; a
3. Yn credu y dylid cymryd pob cam posibl i wella ymgysylltiad â’r cyhoedd, i wneud y trafodion yn berthnasol, ac i sicrhau bod Gweinidogion yn atebol i Aelodau’r Cynulliad.