DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 17/02/14
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2014-0268 – Cau canghennau Asiantaeth Santander yng Ngogledd Cymru
Codwyd gan:
Antoinette Sandbach
Tanysgrifwyr:
Aled Roberts 17/02/2014
Mohammad Asghar 17/02/2014
Darren Millar 17/02/2014
Nick Ramsay 19/02/2014
Llyr Gruffydd 19/02/2014
Russell George 19/02/2014
Mark Isherwood 20/02/2014
Cau canghennau Asiantaeth Santander yng Ngogledd Cymru
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1) Yn gresynu at y bwriad i gau canghennau asiantaeth Santander yng Ngogledd Cymru;
2) Yn nodi’r anawsterau y bydd cau canghennau asiantaeth yn eu gorfodi ar gymunedau gwledig;
3) Yn nodi datganiad blaenorol bod Santander wedi ymrwymo i ddatblygu ei rwydwaith o asiantaethau ymhellach. Yn aml, asiantaethau yw anadl einioes cymunedau gwledig lle nad yw canghennau banciau llawn, traddodiadol mor gyffredin.;
4) Yn annog Santander i ailasesu ei gynigion i gau.